Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2021
Amser:
09.15 -
12.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12501
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Cefin Campbell AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Judith Paget, Llywodraeth Cymru Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Steve Elliot, Llywodraeth Cymru Elin Gwynedd, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Samia Saeed-Edmonds, Llywodraeth Cymru Jonathan Irvine, Llywodraeth Cymru Andrew Sallows, Llywodraeth Cymru Lisa Wise, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS
2 COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â materion iechyd
2.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar COVID-19 a'i effaith ar faterion iechyd.
2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd / Prif Weithredwr y GIG gyda chwestiynau na chyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn a materion a godwyd gan Aelodau wrth drafod y dystiolaeth a gafwyd, yn breifat.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod yr Ymatebion i Adroddiadau
4.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn trafod yr ymatebion i holl Adroddiadau’r Pwyllgor blaenorol ynghyd ag ymatebion Llywodraeth Cymru i Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020.
4.2 Bu'r Aelodau hefyd yn trafod y mater o dderbyn argymhellion y Pwyllgor ‘mewn egwyddor'.
4.3 Nododd yr aelodau y ddadl a drefnwyd yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer 24 Tachwedd ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
5 COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.